Skip to main content

Adroddiad Meddygol ar gyfer Griffith Pritchard o Gricieth

Disgrifiadau

Adroddiad Meddygol ar gyfer Griffith Pritchard o Gricieth
Yr oedd yn fab i Crïwr Tref (Town Crier) Cricieth ac roedd yn forwr yn gweithio ar arfordir Awstralia ar ddechrau'r rhyfel. Ymunodd â Heddluoedd Awstralia a chafodd ei gludo i'r Aifft. Erbyn hynny roedd yr ymgyrch Gallipoli yn dod i ben, felly fe'i trosglwyddwyd i Ffrainc lle gwasaneuthodd am weddill y rhyfel. O ddiddordeb yn yr adroddiad hwn yw sylwad am craith ar ei goes dde. Digwyddodd yr anaf hwn pan oedd yn fachgen, yn aelod o griw'r sgwner Porthmadog "Owen Morris". Bu'n rhaid i’r criw ddianc o'r llong pan oedd yn cael ei yrru i'r ogofâu Graig Ddu. Wrth neidio o'r sgwner i Fad Achub Cricieth, cafodd ei goes ei wasgu rhwng y ddau.

Owner:
Nesta Gwynne Jones
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
11/4/2018
Gwelediadau:
1115
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment