Skip to main content

Llyfrynnau crefyddol milwr yn eiddo i W.T. Walker Criccieth , Rhyfel Byd Cyntaf.

Disgrifiadau

Llyfrynnau crefyddol milwr yn eiddo i W.T. Walker Criccieth

Pedwar llyfryn boced o weddïau, salmau a sgriptiau crefyddol oedd yn perthyn i William T. Walker RFA o Griccieth.

Ganed William Thomas Walker yn Mirfield, Swydd Efrog, ym 1891 i George a Jemima Walker. Roedd ei dad yn saer ar Reilffordd Llundain a Swydd Efrog. Hyfforddwyd William fel garddwr, ac yng nghyfrifiad 1911 mae'n byw gyda'i rieni. Ar ddechrau'r rhyfel ymunodd â'r Fagnelaeth Frenhinol. Credir ei fod wedi cael cysylltiadau cyn y rhyfel yng Nghricieth, ac efallai ei fod wedi hyfforddi yno gyda'r RFA yn ystod haf 1915. Priododd ferch leol, Nell Jones, ac arhosodd i fyw yng Nghricieth wedi hynny. Fe wasanaethodd yn y rhan fwyaf o'r prif ymgyrchoedd; a gafodd ei anafu’n wael gan shrapnel ac fe'i gwenwynwyd a nwy. Ar ôl y rhyfel, ymgartrefodd yn y dref lle sefydlodd ardd farchnad lwyddiannus yng nghefn West Parade, lle mae Gerddi Abereistedd heddiw. Bu farw ym 1973.

Owner:
Will Walker Jones
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
11/4/2018
Gwelediadau:
1083
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment