Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Peintiwyd y portread olew hwn (127 x 101.6 cms) o Simon Lloyd, Plas Power, Wrecsam, ym 1749. Cafodd portread o'i wraig, Sarah Lloyd, hefyd ei baentio gan Thomas Frye. Ganed Thomas Frye (1710-62) ger Dulyn ond symudodd i Lundain tua'r flwyddyn 1729 lle daeth yn adnabyddus fel arlunydd, ysgythrwr a mân-ddarluniwr.

William oedd enw'r rhan fwyaf o'r dynion yn nheulu'r Lloyd ac mae lle i gredu bod y Simon Lloyd hwn hefyd yn cael ei alw'n William gan nad oes unrhyw gofnod ar gyfer gŵr o'r enw Simon Lloyd. Fodd bynnag, mae cofnodion y cyfnod yn dangos mai William oedd enw gŵr Sarah Lloyd.

Etifeddodd teulu Fitzhugh Blas Power ym 1816 yn dilyn priodas etifeddes teulu'r Lloyd â Thomas Fitzhugh. Etifeddwyd y portreadau o Simon a Sarah Lloyd yn ddiweddarach gan yr Is-gyrnol G. E. Fitzhugh (Prif Swyddog y 61eg Gatrawd Canolig rhwng 1939 a 1943).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw