'Sarah Lloyd, Plas Power, Wrecsam' gan Thomas Frye, tua'r flwyddyn 1749 (olew)
'Sarah Lloyd, Plas Power, Wrecsam' gan Thomas Frye, tua'r flwyddyn 1749 (olew)
Disgrifiadau
Peintiwyd y portread olew hwn (129 x 105 cms) o Sarah Lloyd, Plas Power, Wrecsam, gan Thomas Frye (1710-62). Peintiodd Frye bortread olew o'i gŵr, Simon Lloyd, ym 1749. Ganed Frye ger Dulyn ond symudodd i Lundain tua'r flwyddyn 1729 lle daeth yn adnabyddus fel arlunydd, ysgythrwr a mân-ddarluniwr.
Etifeddodd teulu Fitzhugh Blas Power ym 1816 yn dilyn priodas etifeddes teulu'r Lloyd â Thomas Fitzhugh. Etifeddwyd y portreadau o Sarah a Simon Lloyd yn ddiweddarach gan yr Is-gyrnol G. E. Fitzhugh (Prif Swyddog y 61eg Gatrawd Canolig rhwng 1939 a 1943).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment