Cwpan i ddathlu genedigaeth F. H. E. Cunliffe, Neuadd Acton, Wrecsam, 1875
Disgrifiadau
Mae'r arysgrif ar y gwpan hon yn darllen fel a ganlyn: 'In commemoration of the Birth of Foster Hugh Egerton Cunliffe, Aug 17th 1875'. Roedd y gwpan hon ym meddiant un o weithwyr ystad Parc Acton ac mae'n bosibl i bob un o'r gweithwyr dderbyn cwpan o'r fath yn anrheg.
Daeth y teulu Cunliffe i Wrecsam o Lerpwl ym 1785 pan brynodd Syr Foster Cunliffe 3ydd Barwnig, Neuadd Acton. Chwaraeodd ei deulu ran flaenllaw ym mywyd Wrecsam dros nifer o genedlaethau. Roedd George Cunliffe MA (6ed mab Syr Foster Cunliffe), a aned ym 1795, yn ficer Wrecsam ac yn ddeon Llanelwy. Arweiniodd ymgyrch i godi safonau moesol y dref, ac mae'n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei ymgyrchoedd i gau'r Cae Ras.
Cynhyrchwyd y gwpan hon i ddathlu genedigaeth Syr Foster Hugh Egerton Cunliffe, y 6ed Barwnig, ym 1875. Disgrifiwyd ef fel mabolgampwr a chricedwr 'gwych' a bu'n gwasanaethu fel is-gapten ym Mataliwn 1af y Cadetiaid, Catrawd Brenhinol y Gorllewin, cyn cael ei ddyrchafu'n uwchgapten. Cafodd ei ladd yn Ffrainc ar faes y gad ym 1917.
Daeth cysylltiad teulu Cunliffe â Wrecsam i ben ym 1949 pan werthwyd Neuadd Acton ac ystad y Parc gan Syr Robert Henry Cunliffe 7fed Barwnig (mab Syr Robert Alfred Cunliffe). Gwerthwyr yr ystad i farchnatwr deiamwntiau o Wlad Belg ac yn ddiweddarach cafodd rhannau mawr o'r tir eu gwerthu i'r awdurdod lleol er mwyn codi tai. Cafodd y tŷ ei ddymchwel ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, wedi i'r milwyr Americanaidd a fu'n lletya yno ddychwelyd adref.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment