Jwg sy'n cofnodi Cofeb Ryfel Plwyf Y Bers (1914-18), Coed-poeth
Jwg sy'n cofnodi Cofeb Ryfel Plwyf Y Bers (1914-18), Coed-poeth
Disgrifiadau
Mae'r jwg hwn yn perthyn i set o lestri te a gynhyrchwyd i nodi achlysur codi'r Giatiau Coffa, Stryt y Parc, Coed-poeth. Codwyd y giatiau er cof am y dynion o blwyf Y Bers a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18). Cafodd y giatiau eu hagor yn swyddogol ar Ddiwrnod y Cadoediad, 11 Tachwedd 1921.
Roedd y llestri te yn cynnwys deuddeg cwpan a soser, dau blât bach, dau blât mwy, powlen siwgr a jwg lefrith. Cafodd yr eitemau hyn eu gwerthu yn siop ddodrefn a llestri Dodds, Stryt Fawr, Coed-poeth. Y cwmni ei hun a gynhyrchodd y llestri fel menter breifat ac roedd modd cynilo 2 geiniog yr wythnos i brynu unrhyw ddarn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment