Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r arysgrif ar y trywel hwn yn darllen fel a ganlyn: 'Presented to Mrs. Dennis on the occasion of her laying Memorial Stone of the Brake Wesleyan Chapel, Moss 18th May 1885'.

Agorwyd y capel Methodist Saesneg ym 1886 a'r enw a roddwyd arno yn lleol oedd 'Capel Brake'. Roedd gan y rhan fwyaf o deuluoedd Pentre Broughton rhyw gysylltiad â'r capel. Roedd y capel yn ganolbwynt cymdeithasol a defnyddid yr ysgoldy fel cegin gawl yn ystod Streic Gyffredinol 1926. Bydd cerrig sylfaen Capel Brake yn cael eu rhoi ar gadw yn Amgueddfa Wrecsam pan fydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel ym mis Chwefror 2003.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw