Skip to main content

Medal bêl-droed a gyflwynwyd i Moses Russell, 1929 [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Cyflwynwyd y fedal bêl-droed hon i'r cefnwr Moses Russell, yn dilyn ei daith i Canada gyda thîm pêl-droed rhyngwladol Cymru ym 1929.
Ganed Moses Richard Russell yn Nhredegar, Sir Fynwy, ar 20 Mai 1888. Wedi cyfnod yn gweithio o dan y ddaear yn y pyllau glo, chwaraeodd Russell i glybiau pêl-droed Tonpentre a Merthyr Tudful cyn ymuno â Southport ym 1912. Dychwelodd i glwb Merthyr ym 1913 pan gafodd ei drosglwyddo am ddim oherwydd trafferthion ariannol clwb Southport. Ym 1914 ymunodd â Plymouth am £400 - y swm mwyaf erioed yn hanes y clwb. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd gyda'r 'Royal Army Service Corps' ond dychwelodd o Plymouth ar ddiwedd y rhyfel. Enillodd dros ugain o gapiau rhyngwladol ac aeth ar daith gyda thîm Cymru ym 1929. Yn ystod y daith cafodd brofiad annifyr dros ben yn Hamilton, Ontario: daeth y dorf ar y cae gan amgylchynu'r chwaraewyr o Gymru ac anelodd un o'r cefnogwyr wn at Russell. Dychwelodd Russell i dde Cymru cyn yr Ail Ryfel Byd ac ymunodd â'r Fyddin Diriogaethol yn ystod y rhyfel. Bu farw yng Nghas-gwent ar 18 Rhagfyr 1946.
Ffynhonnell: Gareth M. Davies ac Ian Garland (goln.), 'Who's Who of International Soccer Players' (Wrexham, 1991).

Owner:
Wrexham County Borough Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Bwrdeistref Sir Wrecsam
Copyright Details:
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2002
Publisher Ref:
GTJ18238
Eitem wedi’i llwytho:
25/1/2010
Date originally created:
1929
Gwelediadau:
607
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment