Gweddillion 'Dyn Brymbo', tua'r flwyddyn 1635 C.C. [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Ym mis Awst 1948 daethpwyd o hyd i weddillion 'Dyn Brymbo' mewn cist ym Mrymbo, ger Wrecsam. Roedd y gist yn mesur 96.25cm x 78.75cm ac wedi ei gorchuddio gyda chapfaen tywodfaen. Roedd y sgerbwd gwrywaidd yn y gist yn dyddio o'r Oes Efydd cynnar. 'Dyn Brymbo' yw un o drigolion hynaf Wrecsam felly, ac mae tua 3,500 o flynyddoedd oed. Mae archeolegwyr yn credu ei fod yn mesur 173 cm (5 troedfedd 8 modfedd) a rhwng tua 35 a 40 mlwydd oed. Roedd cyllell fflint a diodlestr pridd wedi eu claddu wrth ei ymyl. Cafodd y darganfyddiad hwn ei gludo i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ac yno y bu hyd fis Mai 1998 pan ddychwelodd 'Dyn Brymbo' adref i'w gynefin yn Wrecsam. Yn 2001 aeth Prifysgol Manceinion ati i greu model cwyr o'r benglog er mwyn ailgreu wyneb 'Dyn Brymbo'. Mae'r model hwn hefyd i'w weld yn orielau Amgueddfa Wrecsam.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment