Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiadur William Searell, Sygun Fawr, Beddgelert, 1845-6. Ganed William Searell ym 1831 ac fe ysgrifennodd y dyddiadur hwn pan oedd yn 14-15 mlwydd oed. Symudodd ei dad, Allen Searell, i'r ardal o Ddyfnaint i weithio fel rheolwr cyffredinol mwynglawdd copr Sygun, ond erbyn tua 1843-4 roedd wedi dechrau ei fusnes ei hun yn chwarel lechi Cwm Orthin. Erbyn 1845, roedd William yn gweithio yn ffowndri'r Union, Caernarfon, ac yn teithio yn ôl ac ymlaen i Feddgelert ar y penwythnosau.
Mae'r cofnod cyntaf yn y dyddiadur, dyddiedig 18 Gorffennaf 1845, yn dilyn y cofnod olaf yn ei ddyddiadur blaenorol. Mae William yn cyrraedd yn ôl i Borthaethwy yn dilyn ei drip i Lerpwl mewn agerlong. Y diwrnod canlynol, mae'n dychwelyd i'w waith yn y ffowndri yng Nghaernarfon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw