Llythyr oddi wrth Maria Stella, Paris, at ei mab, Arglwydd Newborough, 11 Medi 1810 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Ganed Maria Stella (1773-1843) ym mhentref Modigliana, Tuscany, yr Eidal. Ym 1786, pan oedd yn 13 oed, priododd Syr Thomas Wynn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, sef yr Arglwydd Newborough cyntaf (1736-1807). Roedd yr Arglwydd Newborough wedi syrthio mewn cariad â'r ferch ifanc yn ystod ei arhosiad yn yr Eidal. Teithiodd Maria Stella i Gymru gyda'i gŵr ym 1792 ac ym 1802 a 1803 rhoddodd enedigaeth i ddau fab. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr priododd Iarll Ungern-Sternberg o Rwsia ym 1810 gan symud i fyw i Paris. Ar ôl ei hymadawiad â Chymru, daeth Maria Stella i gryn amlygrwydd. Yn dilyn marwolaeth ei thad ym 1821, derbyniodd lythyr a ysgrifennwyd ganddo ar ei wely angau, yn esbonio nad ef oedd ei thad naturiol. Treuliodd Maria Stella ei holl amser a'i chyfoeth er mwyn darganfod y gwirionedd ynghylch ei genedigaeth. Daeth i'r casgliad ei bod yn blentyn anghyfreithlon i Philip, Dug Orleans, a bod ganddi felly hawl gyfreithiol i goron Ffrainc. Fodd bynnag, methiant fu ei hymdrechion i brofi ei bod yn dywysoges a bu farw mewn amgylchiadau tlawd yn Paris yn 72 oed.
Ysgrifennodd Maria Stella y llythyr hwn at ei mab, Spencer, trydydd Arglwydd Newborough, o'i chartref yn Paris ym 1810. Mae hi'n gobeithio ei fod wedi mwynhau'r lluniau a anfonodd ato a bod Fanny wedi derbyn y parseli. Dywed ei bod yn sâl ac nid oes ganddi unrhyw arian. Fe roddodd fenthyg £500 i'r diweddar Mrs Wilkins ym 1808 ond nid yw'r ymddiriedolwyr wedi ei thalu yn ôl. Dywed y byddai hanner y swm hwnnw yn dderbyniol iawn. Yn y gorffennol, arferai'r teulu Burdett roi mân symiau iddi'n aml, ond ers iddynt ennill eu ffortiwn maent yn ei gwrthod. Roedd Arglwyddes Bute yn wahanol iawn iddynt. Dywed Maria Stella ei bod wedi cyfnewid ei cherbyd am bortread o'r Arglwyddes Jane Seymour ac felly nid yw'n bosibl iddi adael Paris.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment