Skip to main content

Llyfr Log Ysgol Rhydygorlan 'Cwm', Llanfachreth, Sir Feirionnydd, 1899-1920 [wynebddalen, delwedd 1 o 16]

Disgrifiadau

Daw'r tudalennau canlynol o Lyfr Log Ysgol Rhydygorlan 'Cwm', Llanfachreth, Sir Feirionnydd, ac maent yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1899 a 1914. Agorwyd yr ysgol ar 5 Mehefin 1899 i wasanaethu rhan ogleddol plwyf gwledig Llanfachreth. Roedd 19 o ddisgyblion yn bresennol ar y diwrnod cyntaf. Er mai Ysgol Rhydygorlan oedd yr enw swyddogol, byddai'r bobl leol yn cyfeirio ati fel 'Ysgol y Cwm' gan ei bod wedi ei lleoli mewn cwm diarffordd, tua 1,000 o droedfeddi uwchlaw'r môr. Fel y mae'r tudalennau canlynol yn datgelu, wynebai'r disgyblion a'r athrawon anawsterau dybryd oherwydd y tywydd garw a'r ffaith bod yr ysgol wedi ei chodi o haearn dalennog. Roedd yr adeilad yn oer iawn yn y gaeaf ac yn boeth iawn yn ystod misoedd yr haf. Yn ogystal, roedd y tân/stof yn yr ystafell ddosbarth yn gwbl ddiffygiol ac yn aml iawn byddai'r ystafell yn llenwi gyda mwg, er mawr ofid i'r disgyblion a'r athrawon.

Owner:
Meirionnydd Archives, Gwynedd Archives Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Meirionnyd
Copyright Details:
Archifdy Meirionnydd, Gwasanaeth Archifau Gwynedd 2002
Publisher Ref:
GTJ17945
Eitem wedi’i llwytho:
25/1/2010
Date originally created:
1899-1920
Gwelediadau:
1866
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment