Disgrifiad

Daw'r tudalennau canlynol o Lyfr Log Ysgol Brydeinig Tywyn, Sir Feirionnydd, ac maent yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1863 a 1867. Mae'r Llyfr Log hwn yn cynnwys sawl cyfeiriad at ymgais y prifathro, Mr Edwin Jones, i rwystro'r plant rhag siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ar y tudalen a ddangosir yma (14 Awst 1863), ysgrifennodd: 'I feel at a loss to know the best method to adopt in order to prevent the children generally from speaking Welsh.' Esbonia ei fod wedi penderfynu defnyddio 'Welsh stick' neu 'Welsh Not' er mwyn cosbi'r plant sy'n siarad Cymraeg.

Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg. Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno. Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg. Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw