Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y Parch. D. Lloyd Jones, a ddaeth yn aelod blaenllaw o'r mudiad gwladfaol yng Nghymru yn y 1860au hwyr, wedi ymfudo i'r Wladfa ym 1874 i weithio fel cenhadwr ymhlith brodorion Patagonia. Yn y llythyr hwn, dywed fod y cynaeafau gwael wedi cael effaith andwyol ar fywyd crefyddol y Wladfa. Mae'n amhosibl cael mwy nag un cwrdd crefyddol llawn ar y Sul, ac 'nis gellir sefydlu cenhadaeth yma ym mysg y brodorion tra y ceir y Wladfa mor feddw ac anghrefyddol'. Pwysleisia'r angen am ddwy long fasnach a'r pwysigrwydd o sicrhau hunanlywodraeth drwy freinlen (charter).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw