Disgrifiad

Rhwng 1829 a 1849 roedd Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle yn nwylo William Turner a'i fab-yng-nghyfraith John Morgans. Pan benderfynodd y ddau werthu'r cwmni ym mis Ebrill 1849, daeth nifer o chwarelwyr lleol ynghyd i sefydlu cwmni a phrynu'r chwarel.

Un o aelodau mwyaf blaenllaw a dylanwadol y cwmni newydd oedd y gweinidog Methodist John Jones (1796-1857), neu 'John Jones Talsarn' fel yr oedd yn cael ei adnabod. Ganed Jones yn Nolwyddelan ond daeth i weithio i'r chwarel yn Nhal-y-sarn ym 1822. Y flwyddyn ganlynol, priododd Fanny Edwards, merch un o swyddogion chwarel gyfagos, a rhoddodd y gorau i'w waith yn y chwarel gan ganolbwyntio ar y weinidogaeth. Yn y cyfamser, aeth Fanny i gadw siop fechan yn y pentref. Ym 1852 cafodd ddamwain ddifrifol yn y chwarel a phenderfynodd adael y diwydiant llechi. Gwerthodd y cwmni ei holl gyfranddaliadau a bu farw Jones bum mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal â bod yn weinidog hynod boblogaidd, roedd Jones yn ŵr cerddorol iawn a chyfansoddodd nifer o emyn donau.

Mae'r tudalennau hyn wedi eu dethol o lyfr cofnodion cyntaf cwmni newydd Chwarel Dorothea ac maent yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1850 a 1851. Er bod y ddau dudalen cyntaf yn Saesneg, mae gweddill y cofnodion wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg. Gwelir mai'r Parchedig John Jones oedd yn cadeirio cyfarfodydd y cyfranddalwyr, ac fe gynhelid y cyfarfodydd bob dau fis yn swyddfa'r chwarel. Ar ddiwedd y cyfarfodydd, byddai'r cyfranddalwyr yn aml yn dychwelyd i dŷ John Jones lle byddai Fanny Jones wedi paratoi bwyd a diod ar eu cyfer.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw