Disgrifiad

Daw'r tudalennau canlynol o Lyfr Log Ysgol Genedlaethol Bethesda (Gerlan) yn ystod y cyfnod 1901-03, sef blynyddoedd Streic Fawr y Penrhyn. Gwelir bod nifer o blant wedi gorfod gadael yr ysgol yn ystod y cyfnod hwn wrth i'w teuluoedd godi eu pac a chwilio am waith yn ne Cymru. Mae'r Llyfr Log hefyd yn datgelu sut yr oedd y plant yn cael eu heffeithio gan y tensiynau a'r rhaniadau dwfn a oedd wedi dod i'r amlwg yn y gymdeithas chwarelyddol hon yn ystod y streic. Mae'n amlwg nad oedd Thomas Jervis, y prifathro, yn cefnogi'r streicwyr ac oherwydd hyn penderfynodd nifer o rieni symud eu plant i ysgolion eraill yn yr ardal.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw