Skip to main content

'Cartref Mari Jones, Llanfihangel-y-Pennant' gan S. Maurice Jones, tua'r flwyddyn 1891 (dyfrlliw)

Disgrifiadau

Peintiwyd y llun dyfrlliw hwn o gartref Mary Jones yn Llanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd, gan yr arlunydd S. Maurice Jones (1853-1932). Roedd Jones yn arlunydd tir yn bennaf a pheintiodd nifer o olygfeydd gerllaw ei gartref yng Nghaernarfon ac yn nyffryn Conwy. Ym 1891 cafodd ei gomisiynu gan O. M. Edwards i gyfrannu cyfres o luniau ar y thema cartrefi Cymru ar gyfer ei gylchgrawn newydd 'Cymru'. Bu'r gyfres o ysgrifau a darluniau yn llwyddiannus iawn ac fe'u cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y gyfrol 'Cartrefi Cymry' (1896). Mae'r llun hwn o gartref Mary Jones yn perthyn i'r gyfres honno. Roedd Mary Jones (1784-1864) yn ferch i wehydd ac ym 1800, pan oedd yn 16 oed, cerddodd bum milltir ar hugain o'i chartref i dref y Bala er mwyn prynu copi o Feibl Cymraeg y Parchedig Thomas Charles.

Owner:
Caernarfon Record Office, Gwynedd Archives Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Caernarfo
Copyright Details:
Archifdy Caernarfon, Gwasanaeth Archifau Gwynedd 2002
Publisher Ref:
GTJ17667
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1890-1899
Gwelediadau:
2893
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment