Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Peintiad olew o'r 'Bramley Moore' gan arlunydd anhysbys.

Adeiladwyd llong y 'Bramley Moore' yng Nghanada tua'r flwyddyn 1856. Roedd yn pwyso 882 tunnell a chanddi rigin llawn. Prynwyd y llong gan y Capten W. H. Owen, Plas Penrhyn, Dwyran, Sir Fôn. Roedd W. H. Owen yn berchen, neu'n rhannol berchen, ar nifer o longau masnach a oedd yn hwylio o Lerpwl ar draws y byd. Roedd y llongau hyn yn cario llwythi o bob math, ond roeddynt yn bennaf gysylltiedig â'r fasnach guano yn Ne America. Hwyliodd y 'Bramley Moore' ar draws y Môr Iwerydd sawl gwaith cyn cael ei dryllio gerllaw arfordir De America ym mis Medi 1864.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw