Disgrifiad
Mae'r tudalennau canlynol wedi eu dethol o ddyddiadur Emily Edwards (1832-74), gwraig Joseph Edwards o Pentre House, Y Waun. Cadwodd Emily y dyddiadur hwn rhwng 1868 a 1870. Trafodir ystod eang o bynciau, gan gynnwys materion teuluol, ymweliad â Lerpwl, y capel a'r pregethau a draddodwyd yno. Mae Emily yn cyfeirio at rai o'i hoff emynau, cerddi a diarhebion. Mae'r dyddiadur hefyd yn cynnwys nifer o'i brasluniau.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw