Disgrifiad

Cyhoeddwyd y llyfryn hwn o ganeuon gan Wasg Gee, Dinbych, ym 1887. Mae'r caneuon oll yn ymwneud â'r protestiadau yn erbyn y degwm a gynhaliwyd yn siroedd Dinbych a'r Fflint yn ystod y cyfnod 1886-90. Roedd natur ormesol trefn y degwm wedi peri cryn anfodlonrwydd ymhlith y Cymry yn yr ardaloedd gwledig hyn. Yn ôl y drefn honno, roedd yn rhaid i blwyfolion gynnal eu hoffeiriad a golygai hyn bod yn rhaid iddynt roi degfed ran eu cynnyrch i'r offeiriad lleol. Gan fod nifer fawr o'r Cymry yn Anghydffurfwyr, roeddynt yn teimlo'n ddig iawn bod yn rhaid iddynt gyfrannu at yr Eglwys Anglicanaidd. Gwrthododd nifer o ffermwyr dalu'r degwm gan arwain at brotestiadau a gwrthdaro gyda'r awdurdodau.

Un o wrthwynebwyr pennaf trefn y degwm oedd Thomas Gee (1815-98), perchennog cwmni cyhoeddi Gwasg Gee, ac nid yw'n syndod felly iddo gefnogi'r ymgyrch drwy gyhoeddi'r caneuon protest hyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw