Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 3 Awst 1854 [delwedd 1 o 2]
Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 3 Awst 1854 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 3 Awst 1854, at ei rieni o Lundain. Mae'n falch o ddweud bod ei gyn-gyflogwr, William Higgins o Gaer, bellach wedi anfon geirda at Mr Clarke, ei gyflogwr newydd. Er i Higgins anfon geirda 'gwych', nid yw Humphrey yn teimlo'n ddyledus iddo gan iddo gymryd cymaint o amser i anfon y geirda. Yn groes i'r hyn a ddywedodd Higgins, mae Humphrey yn dweud nad yw'n cofio iddo erioed ddweud gair drwg amdano wrth Hughes, fferyllydd yn Llangollen. Gofynna Humphrey wrth ei rieni i gael gair â Hughes i weld beth yn union yw sail honiad Higgins.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment