Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yng Nghaer, at ei rieni yn Llangollen, 20 Hydref 1850 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 20 Hydref 1850, at ei rieni o Gaer lle'r oedd yn gweithio fel prentis i William Higgins, fferyllydd a drygist. Dywed fod ei ddwylo wedi gwella bellach ar ôl iddo baratoi eli arbennig a'i rwbio ar y croen - 'Ni wyddant hwy yn i shop ddim, pa beth ydyw, gwneis o fy hun ag os mynwch gyraf gopi o'r recipe i chwi'.
Mae Humphrey yn adrodd hanes anghydfod a gododd yn y siop yr wythnos flaenorol. Ddydd Gwener, daeth dyn i'r siop i dalu am dri llyfr o 'Gold Leaf' a werthwyd i'w fab neu negesydd yn y bore. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw cofnod o'r gwerthiant ac fe ddaeth yn amlwg bod William Higgins yn amau mai Humphrey oedd ar fai. Er bod Humphrey yn ddieuog o'r drosedd, derbyniodd y rhybudd llym canlynol gan ei feistr:
'If you had sold them, you should not have stopped a minute in the shop. I would have sent you home directly'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment