Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o W.T Walker a Nell Jones.
Ganed William Thomas Walker yn Mirfield, Swydd Efrog, ym 1891 i George a Jemima Walker. Roedd ei dad yn saer ar Reilffordd Llundain, ac yn Swydd Efrog. Hyfforddwyd William fel garddwr, ac yng nghyfrifiad 1911 mae'n byw gyda'i rieni. Ar ddechrau'r rhyfel ymunodd â'r Fagnelaeth Frenhinol. Credir ei fod wedi cael cysylltiadau cyn y rhyfel yng Nghricieth, ac efallai ei fod wedi hyfforddi yno gyda'r RFA yn ystod haf 1915. Priododd ferch leol, Nell Jones, ac arhosodd i fyw yng Nghricieth wedi hynny. Fe wasanaethodd yn y rhan fwyaf o'r prif ymgyrchoedd; a gafodd ei anafu’n wael gan shrapnel ac fe'i gwenwynwyd a nwy. Ar ôl y rhyfel, ymgartrefodd yn y dref lle sefydlodd ardd farchnad lwyddiannus yng nghefn West Parade, lle mae Gerddi Abereistedd heddiw. Bu farw ym 1973.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw