Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cloddiwyd y ddysgl hon i'r wyneb ar safle Crochendy Brookhill, Bwcle, lle cafodd ei gwneud tua 1640-1670.

Sgraffito yw'r enw ar dechneg arbennig a ddefnyddir i addurno crochenwaith. Bydd haenen o glai hylif (slip) yn cael ei arllwys dros y potyn i gyd ac wedi iddo galedu bydd cynllun yn cael ei grafu drwy'r slip i ddatgelu lliw cyferbyniol y potyn oddi tano.

Credir bod y cynllun ar y ddysgl hon yn tarddu o'r hen lawysgrifau a lluniau bwystawr a ddaeth yn boblogaidd unwaith yn rhagor yn ystod y 1500au a'r 1600au. Roedd y casgliadau hyn o chwedlau moesol yn defnyddio straeon am anifeiliaid, planhigion, adar a physgod i gyfleu dealltwriaeth o'r ysgrythyrau. Roedd y da a'r drwg wedi eu hymgorffori ym myd natur ac wedi eu rhannu ymhlith y rheini a oedd yn cynnwys nodweddion da a nodweddion drwg.

Mae'r ardal o amgylch Bwcle wedi cael ei chysylltu â'r diwydiant crochenwaith ers y 13eg neu'r 14eg ganrif. Yn ystod y chwe chan mlynedd rhwng y cyfnod hwnnw a chanol yr ugeinfed ganrif, gwyddom bod 19 o safleoedd gwahanol wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o grochenwaith yn yr ardal. Yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif, roedd nifer o'r nwyddau hyn o safon uchel iawn ac roeddynt yn cael eu hystyried o'r un safon â'r nwyddau a gynhyrchid yn Swydd Stafford yn ystod yr un cyfnod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw