Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cloddiwyd y 'tyg' (diodlestr) clai du hwn ar safle Crochendy Brookhill, Bwcle, lle cafodd ei wneud tua 1640-1670.

'Tyg' yw'r enw a roddir ar ddiodlestr o'r math hwn sy'n cynnwys dolenni addurnedig cain. Er mwyn creu'r lliw tywyll, cafodd y clai pridd coch ei orchuddio gan wydredd plwm a oedd yn cynnwys haearn.

Mae'r ardal o amgylch Bwcle wedi cael ei chysylltu â'r diwydiant crochenwaith ers y 13eg neu'r 14eg ganrif. Yn ystod y chwe chan mlynedd rhwng y cyfnod hwnnw a chanol yr ugeinfed ganrif, gwyddom bod 19 o safleoedd gwahanol wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o grochenwaith yn yr ardal. Yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif, roedd nifer o'r nwyddau hyn o safon uchel iawn ac roeddynt yn cael eu hystyried o'r un safon â'r nwyddau a gynhyrchid yn Swydd Stafford yn ystod yr un cyfnod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw