Y Felin, Pwllheli, 17 Chwefror 1958: cyfeiriodd Cynan at ffynnon Y Felin yn ei bryddest 'Mab y Bwthyn' (1921)
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
Ganed y bardd a'r dramodydd Albert Evans-Jones (1895-1970), neu 'Cynan' fel yr oedd yn cael ei adnabod, ym Mhwllheli. Ar ôl cyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ymunodd â'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan wasanaethu fel milwr ac yna fel caplan. Yn ystod y 1920au bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmaen-mawr, ond ym 1931 cafodd ei benodi'n Diwtor yn ei hen goleg ac yno y bu hyd ei ymddeoliad. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei bryddest 'Mab y Bwthyn' ym 1921. Aeth ymlaen i gipio'r wobr ddwy waith eto (ym 1923 a 1931), ac ef oedd enillydd y Gadair ym 1924. Bu hefyd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ddwywaith, yn ystod y 1950au a'r 1960au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment