Skip to main content

Llusern fordwyo'r llong Samtampa, a ddrylliwyd ar greigiau Sker Point, Porthcawl, 23 Ebrill 1947

Disgrifiadau

Am 3.45 ar brynhawn Ddydd Mercher, 23 Ebrill 1947, dywedodd dau fachgen wrth wylwyr y glannau Porthcawl fod llong wedi mynd i'r lan yn Rest Bay. Pan aethant i ymchwilio, gwelsant nad oedd y llong, y Samtampa, wedi mynd i'r lan, ond roedd yn llonydd ac mewn cyflwr gwael. Er nad oedd yn dangos arwyddion cyfyngder i ddechrau, anfonwyd am fad achub y Mymbls, gan fod y tywydd yn wyntog ac mae creigiau peryglus ar yr arfordir ger Porthcawl.

Adroddodd Samtampa ei bod wedi colli'i hangor starbord am 4.55yh, ac am 5.05 taniodd ffrwydryn cyn teithio ar hyd yr arfordir am filltir a tharo'r creigiau yn Sker Point. Roedd y tywydd yn gwaethygu, a chyrhaeddodd gwylwyr y glannau i geisio achubiad o'r traeth, gan saethu rocedi yn cario rhaffau ar ddec y llong. Roedd yn rhaid iddynt aros i'r llanw droi cyn iddynt allu mynd yn agos at y Samtampa, ac roedd y llong yn cael ei thaflu'n erbyn y creigiau gan y gwynt a'r tonnau.

Collwyd pob un o'r criw o 39 ar fwrdd y Samtampa, ond nid dyma ddiwedd y drasiedi. Roedd 'Edward Prince of Wales', bad achub y Mymbls, wedi cael ei lansio, ac yn teithio am safle olaf y Samtampa. Derbyniodd Gwylwyr y Glannau'r Mymbls y wybodaeth wedi i'r bad achub lansio, a cheisiodd drosglwyddo'r wybodaeth i'r bad gan ddefnyddio llusern. Ni fedrodd y bad achub ddeall oherwydd y tywydd erchyll, a daeth yn l i'r lithrfa i wneud yn sicr, cyn mynd allan i'r storm eto. Ni welwyd y cwch eto nes daethpwyd o hyd iddo yn wyneb i waered ar y creigiau yn ymyl drylliad y Samtampa; boddwyd y criw o wyth o ddynion.

Collodd cyfanswm o 47 dyn eu bywydau.

Owner:
Porthcawl Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Porthcawl
Copyright Details:
Amgueddfa Porthcawl 2006
Publisher Ref:
GTJ76897
Eitem wedi’i llwytho:
20/1/2010
Date originally created:
23/4/1947
Gwelediadau:
863
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment