Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan fwyaf yn sefyllfa annatrys. Wynebodd lluoedd y Cynghreiriaid a'r Almaen ei gilydd, o'u ffosydd, dros Dir Neb ar hyd Ffrynt y Gorllewin. Am tua phedair blynedd ni fu unrhyw symudiadau arwyddocaol ar y naill ochr na'r llall, a daeth y ffosydd yn aneddiadau sefydlog i'r milwyr oedd yn byw ynddynt. Roedd amodau byw'n erchyll ac, er bod y gelyn yn agos, roedd cyfnodau hir o lonyddwch. Yn ystod cyfnodau o'r fath byddai'r milwyr yn ysgrifennu llythyrau adref a gwneud eu cartref mor gysurus â phosibl.

Gwnaed yr arwydd hwn gan filwyr i'w hongian uwchben mynedfa ffos a ddefnyddiwyd gan Gwmni Gwarchae Rhif 1 o Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw