Copi o banel paentiedig ar furiau bedd y Tywysog Si-renput yn Aswan, yr Aifft, gan Henry Wallis, 1887 (olew ar gotwm)
Copi o banel paentiedig ar furiau bedd y Tywysog Si-renput yn Aswan, yr Aifft, gan Henry Wallis, 1887 (olew ar gotwm)
Disgrifiadau
Copi o wal wedi'i pheintio a ddarganfuwyd ym medd y Tywysog Si-renput, Aswan, Aifft, a wnaed tua 1900 CC. Gwnaed y copi gan Henry Wallis yn ystod fforiad Syr Francis W. Grenfell i feddau yn yr Aifft yn y 1880au. Grenfell oedd cadlywydd y fyddin yn yr Aifft tra oedd dan reolaeth Prydain.
Mae'r peintiad yn dangos golygfa nodweddiadol a gwelir yr ymadawedig yn gwneud ei ffordd i'r byd nesaf. Gwelir Si-renput yn sefyll ar y chwith, yn dal ffon a rhyw fath o declyn. Mae ei wraig, Offeiriades Hathor, yn eistedd o flaen bwrdd sydd wedi'i bentyrru ag offrymau, ar y dde.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment