arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Copi o wal wedi'i pheintio a ddarganfuwyd ym medd y Tywysog Si-renput, Aswan, Aifft, a wnaed tua 1900 CC. Gwnaed y copi gan Henry Wallis yn ystod fforiad Syr Francis W. Grenfell i feddau yn yr Aifft yn y 1880au. Grenfell oedd cadlywydd y fyddin yn yr Aifft tra oedd dan reolaeth Prydain.

Mae'r peintiad, sydd wedi'i wneud o olew ar liain, yn dangos golygfa nodweddiadol a gwelir yr ymadawedig yn gwneud ei ffordd i'r byd nesaf. Mae Si-renput yn eistedd o flaen bwrdd wedi'i bentyrru ag offrymau i'r duwiau. Mae ei fab, Anku, i'w weld gyferbyn, yn dal blodyn lotws.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw