Deunydd rhisgl o Fiji, 19eg ganrif
Deunydd rhisgl o Fiji, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Roedd deunydd Masi neu Tapa, wedi'i wneud o rhisgl, yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant Fiji. Mae gan y motiffau arwyddocad symbolaidd a fyddai'n newid yn ôl y defnydd a wneid o'r deunydd. Cynhyrchwyd darnau unigol ar gyfer gwisgoedd seremonïol, ar gyfer pobl bwysig, ac ar gyfer defnydd cyffredinol.
Gwnaed y deunydd trwy dynnu'r rhisgl oddi ar goed ifanc, ac yna pwyo'r rhisgl mewnol nes ei fod yn troi'n ffeibrau ffeltiog. Yna byddent yn eu ffeltio gyda'i gilydd i ffurfio cynfasau mawr o ddeunydd. Pan oeddent wedi sychu, roeddent yn eu haddurno â phatrymau cain gan ddefnyddio lliwiau naturiol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment