Braslun o Benrhyn Mwmbwls o gyfeiriad Abertawe, gan y Parch. Calvert Richard Jones, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Dyma fraslun o Benrhyn Mwmbwls o gyfeiriad Abertawe.
Roedd y Parch. Calvert Richard Jones (1804-77) yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn, perchennog ystad Penlle'r-gaer ar gyrion Abertawe ac a oedd yn awdurdod eiddgar ar ffotograffiaeth gynnar. Roedd Dillwyn Llewelyn ei hun yn gefnder i Fox Talbot, a gwnaeth ddefnydd o'i wybodaeth o gemeg i ddatblygu'r prosesau yr oedd Fox Talbot wedi bod yn gweithio arnynt.
Dilynodd Calvert Jones waith Llewelyn a Talbot gyda diddordeb. Peintiwr arforol oedd o'n wreiddiol, ond dechreuodd dynnu ffotograffau gyda brwdfrydedd, gan wneud daguerroteipiau i ddechrau, cyn mynd ymlaen i ddefnyddio proses caloteipiau Fox Talbot. Teithiodd ledled Ffrainc a'r Eidal, gan ddatblygu ei ffyrdd ei hun o dynnu lluniau panoramig, a gweithiodd ochr yn ochr â Hippolyte Bayard, a wnaeth ddarganfyddiadau mewn ffotograffiaeth cyn Louis Daguerre.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment