Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tebot a ddefnyddiwyd yng ngwesty Mackworth, Abertawe, yn dyddio o tua'r 1930au. Mae llun merch yn gwisgo gwisg Gymreig arno.

Mae'r gwesty wedi ei enwi ar ôl teulu Mackworth, diwydianwyr cyfoethog oedd yn berchen ar Stad Gnoll yng Nghastell-nedd, a llawer o fentrau diwydiannol yn yr ardal. Agorodd y gwesty yn Wind Street yn y 18fed ganrif, ac roedd yn un o westai gorau Abertawe yn bell i mewn i'r 20fed ganrif. Yr enw gwreiddiol oedd y Mackworth Arms, ond fe'i ailenwyd yn y 1890au pan brynodd y llywodraeth yr adeilad gwreiddiol i'w ddatblygu, a phan symudodd y fenter i'r Stryd Fawr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw