Ratl baban, cwrel ac arian, a wnaed gan Gervaise Wheeler, Birmingham, 1857
Disgrifiadau
Ratl yn perthyn i William Woodwell Chislett, a aned yn Abertawe yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Cynhyrchwyd y ratl gan of arian yn Birmingham, ac roedd yn degan nodweddiadol i faban o deulu cyfoethog. Gallai'r baban gnoi ar y cwrel a'i ddefnyddio i siglo'r ratl. Roedd gan y ratl sawl cloch fach arian ynghlwm wrtho, a oedd yn creu sŵn pleserus.
Dewisiwyd cwrel gan na ellir ei gnoi'n ddarnau a thagu arno; roedd yn llyfn a hawdd ei lanhau; ac roedd hefyd yn oer, ac felly'n esmwytho cig dannedd baban oedd yn torri'i ddannedd. Gelwid y ratlau hyn yn 'gwrel a chlychau' yn aml, gan fod y deunyddiau mor nodweddiadol.Mewn rhannau eraill y byd rhoddwyd gyddfdlysau cwrel i fabanod iddynt gael cnoi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment