Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Byddai glowyr yn aml yn cludo tuniau baco tebyg i'r rhain, fyddai'n aml yn cynnwys baco main neu faco cnoi. Ni chaniateid ysmygu dan ddaear wrth reswm, a byddai cnoi baco yn cynnig dewis arall. Byddai llawer o duniau yn arddangos addurniad wedi ei ysgythru neu ei dyllnodi, ac yn aml yn dangos enw'r perchennog ac weithiau ei gyfeiriad llawn. Yn ogystal â bod yn fodd i dun coll gael ei ddychwelyd, gellid tybio y byddai'r manylion hyn o gymorth i adnabod y perchennog tasai'r gwaetha'n digwydd, ac iddo gael ei ladd neu ei glwyfo'n ddrwg mewn damwain gwaith glo.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw