Taffrail Log, c.1830 [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Roedd y 'taffrail log', a elwid hefyd yn 'patent log' neu 'screw log', yn cael ei ddefnyddio i fesur cyflymder llong neu'r pellter yr oedd llong yn ei deithio. Cafodd y teclyn hwn ei ddyfeisio ym 1688 gan y gwneuthuriwr offer Humphry Cole yn Lloegr. Llusgwyd y darn gyda'r esgyll y tu ôl i'r llong ar raff, tra gellid ddarllen troeon yr esgyll ar y mesur i weld y cyflymder.
Mae'r log yn cyfateb i gloc cyflymder ar y lan. Ar y cyntaf, Boncyff oedd y 'log' wedi'i glymu wrth rhaff gyda chlymau ynddi bob hyn a hyn. Gollyngwyd y log i'r dŵr wrth flaen y llong. Roedd nifer y clymau a ollyngwyd mewn cyfnod arbennig yn ôl awrwydr yn rhoi cyflymder y llong, a dyna o ble daw'r gair 'knots' i ddisgrifio cyflymder ar y môr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment