Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y Parch. Calvert Richard Jones (1804-77) yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn, perchennog ystad Penlle'r-gaer ar gyrion Abertawe ac a oedd yn awdurdod eiddgar ar ffotograffiaeth gynnar. Roedd Dillwyn Llewelyn ei hun yn gefnder i Fox Talbot, a gwnaeth ddefnydd o'i wybodaeth o gemeg i ddatblygu'r prosesau yr oedd Fox Talbot wedi bod yn gweithio arnynt.

Dilynodd Calvert Jones waith Llewelyn a Talbot gyda diddordeb. Peintiwr arforol oedd o'n wreiddiol, ond dechreuodd dynnu ffotograffau gyda brwdfrydedd, gan wneud daguerroteipiau i ddechrau, cyn mynd ymlaen i ddefnyddio proses caloteipiau Fox Talbot. Teithiodd ledled Ffrainc a'r Eidal, gan ddatblygu ei ffyrdd ei hun o dynnu lluniau panoramig, a gweithiodd ochr yn ochr â Hippolyte Bayard, a wnaeth ddarganfyddiadau mewn ffotograffiaeth cyn Louis Daguerre.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw