Skip to main content

Bwrdd starn y bad tywys 'Tom Rosser', Harbwr Abertawe, 19eg ganrif

Disgrifiadau

Y plac hwn sy'n dangos y llythrennau 'TR' oedd bwrdd starn addurniadol o'r bad tywys Tom Rosser, a oedd yn gweithio yn Nociau Abertawe rhwng 1840 a 1860. Enillodd y Tom Rosser wobr gyntaf Ymddiriedolwyr yr Harbwr yn Regata Abertawe ym 1851.

Defnyddir bad tywys i gludo peilotiaid porthladd yn ôl ac ymlaen at longau mawr wrth iddynt fynd i'r afael â'r dyfroedd arfordirol peryglus i mewn ac allan o'r porthladd. Mae peilot yn feistr llongau, gyda blynyddoedd lawer o brofiad o'r porthladd, a gwybodaeth ddilys am amgylchiadau daearyddol, meteorolegol a llanwol lleol. Mae'r rhan fwyaf o borthladdoedd yn disgwyl i longau dros faint arbennig dderbyn peilot wrth gyrraedd neu adael y porthladd. Er bod gan feistr y llong reolaeth gyfreithiol dros y llong, y peilot fydd yn rheoli wrth i'r llong symud i mewn ac allan o'r porthladd.

Bydd bad tywys yn dangos y faner goch a gwyn 'Hotel' yn y dydd, a golau gwyn uwchben golau coch yn ystod y nos, i ddangos fod peilot ar ei fwrdd.

Owner:
Swansea Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Abertawe
Copyright Details:
Amgueddfa Abertawe 2002
Publisher Ref:
GTJ70426
Eitem wedi’i llwytho:
20/1/2010
Date originally created:
1840-1860
Gwelediadau:
673
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment