Skip to main content

Deunydd Ysgrifennu Galar y Frenhines Victoria, Sefydliad Brenhinol De Cymru, 1901

Disgrifiadau

Ym 1835 ffurfiwyd Cymdeithas Athronyddol a Llenyddol Abertawe gan grŵp o ddynion busnes lleol, diwydianwyr a gwyddonwyr, gyda'r bwriad o hyrwyddo diddordeb mewn Llenyddiaeth, y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Hanes Lleol. Ym 1838, roddwyd Siarter Brenhinol iddi a newidiwyd yr enw i Sefydliad Brenhinol De Cymru.

Comisiynwyd adeilad Amgueddfa Abertawe gan Sefydliad Brenhinol De Cymru fel cwpwrdd arddangos ar gyfer eu casgliadau, gyda llyfrgell, labordy ac ystafell ddarlithio. Canolbwyntiai'r darlithiau cyhoeddus cynnar ar bynciau gwyddonol, tra oedd yr amgueddfa ei hun yn darparu ar gyfer cynulleidfa fwy eang.

Mae papur galar Sefydliad Brenhinol De Cymru yn dangos cryfder teimlad y cyhoedd tuag at y Frenhines Victoria, a fu farw ym 1901 ar ôl teyrnasiad o dair mlynedd a thrigain. Trwy ei theyrnasiad cafwyd portread o gyfnod nodedig a balch ym Mhrydain, gyda datblygiadau mewn gwyddoniaeth, diwydiant, meddygaeth a lles y gymdeithas, yn ogystal ag Ymerodraeth ffyniannus, na welwyd mo'u tebyg o'r blaen.

Owner:
Swansea Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Abertawe
Copyright Details:
Amgueddfa Abertawe 2002
Publisher Ref:
GTJ70423
Eitem wedi’i llwytho:
20/1/2010
Date originally created:
1901
Gwelediadau:
1645
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment