Indentur David Hopkins o Abertawe, a brentisiwyd i James Richardson, saer llongau, 1839
Disgrifiadau
Cytundeb llafur oedd Indentur, ble byddai gweithiwr yn rhwymo ei hun i'w gyflogwr am nifer o flynyddoedd, yn aml heb gael unrhyw wobr ariannol, ond yn derbyn llety a bwyd am ei wasanaethau. Mae'r term yn tarddu o Saesneg Canol ac mae'n ymwneud â chytundeb a ysgrifennir ar ffurf ddyblyg ar yr un dudalen. Fe'i torrir ar hyd llinell ddanheddog i roi copi'r un i'r cyflogwr a'r cyflogedig. Er mwyn cadarnhau dilysrwydd mae'r ymylon yn mynd i'w gilydd i'r dim ar hyd y toriad afreolaidd hwn.
Daeth y traddodiad hwn yn sail i'r system brentisio ar gyfer dysgu crefft. Mae'r indentur arbennig hwn yn perthyn i 'David Hopkins of the Town of Swansea, in the County of Glamorgan, aged about seventeen years' a dywedir iddo ' of his own free will doth put himself apprentice to James Richardson of Swansea aforesaid, Shipbuilder, to learn the art of a shipwright.' Byddai prentisiaeth o saith mlynedd, i'w gwblhau ym 1846, yn rhoi i David y medrau roedd eu hangen i ennill bywoliaeth. Mae'n ymddangos bod David wedi cael rhyw fath o addysg flaenorol, gan fod ganddo'r gallu i lofnodi ei enw ei hun ar yr indentur.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment