Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Sefydlwyd yr 'Ysgol Wrthryfel' yn festri capel Wesle Llandecwyn ym 1906, mewn ymateb i Ddeddf Addysg Balfour a basiwyd bedair mlynedd yn ddiweddarach ym 1902. Yr hyn a arweiniodd at sefydlu'r ysgol oedd y penderfyniad ym 1902 i drosglwyddo ysgolion i ofal y cynghorau sir. Golygai hyn mai'r awdurdodau addysg lleol fyddai'n gyfrifol am ariannu pob ysgol, gan gynnwys ysgolion yr Eglwys ac ysgolion gwirfoddol eraill. O gofio'r tensiynau a oedd yn bodoli rhwng Anghydffurfwyr ac Eglwyswyr yn ystod y cyfnod, nid oedd hi'n syndod i nifer o gynghorau Cymru wrthwynebu'r penderfyniad hwn.

Ym Meirionnydd, daeth yn amlwg nad oedd yr awdurdod lleol yn barod i weithredu'n unol â'r Ddeddf. Ym 1905 ceisiodd y cyngor gau'r Ysgol Genedlaethol (sef ysgol yr Eglwys) yn Llandecwyn, er mwyn gorfodi'r plant i ymuno ag ysgol y cyngor. Arweiniodd y mater hwn at gryn ddadlau a thrafod a chynhaliwyd ymchwiliad swyddogol gan y llywodraeth ganolog. Er i'r ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd angen ysgol yn Llandecwyn, rhoddwyd caniatâd hefyd i'r Ysgol Genedlaethol barhau. Nid oedd Cyngor Sir Meirionnydd yn fodlon ildio ar y mater hwn, fodd bynnag, ac aeth ati i agor ysgol newydd, sef yr 'Ysgol Wrthryfel', i gystadlu â'r ysgol eglwysig. Daeth yn amlwg yn fuan bod y cyngor wedi ennill y frwydr, oherwydd erbyn mis Awst 1906 cofrestrwyd 25 o blant ar lyfrau'r 'Ysgol Wrthryfel' a 5 yn unig ar lyfrau ysgol yr Eglwys. Yn y pen draw, bu'n rhaid i'r llywodraeth ganolog blygu i'r awdurdod lleol a chydnabod llwyddiant yr 'Ysgol Wrthryfel'. Yn fuan wedyn rhoddwyd caniatâd i'r sir godi ysgol newydd Brontecwyn yn Llandecwyn.

Ffynhonnell: Nodiadau anghyhoeddedig Einion Thomas a H. G. Williams, Archifdy Meirionnydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw