Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd y setl hon ei gwneud o wahanol ddarnau o dderw cerfiedig a ddaeth o wahanol eglwysi, tai a thafarndai. Cafodd ei gwneud rhwng 1889 a 1894 gan Richard Davids, Caernarfon, yn anrheg ar gyfer Syr William H. Preece, arloeswr yn maes telegraffi di-wifr.

Daw'r asen uchaf o drawst a ddaeth o do hen dŷ Cefnycoed; roedd y panel gothig uchaf unwaith yn rhan o groglen eglwys Llanllyfni; daw'r asen ganol o drawst yn eglwys Llanllyfni; daw'r ddau banel allanol ar y cefn o ddwy arch flawd o Boduan, a hen baneli o wahanol ffynonellau anhysbys. Daw'r ddau banel canolog o hen gist dderw o Sir Efrog neu Swydd Derby. Daw'r pum mwntin ar y cefn rhwng y paneli o ddarn o'r groglen yn eglwys Llanllyfni, trawst o eglwys Boduan a thrawstiau o hen dafarn yr 'Old England', Pendist, Caernarfon, ac o Blas Puleston yn Stryd y Plas, Caernarfon. Daw'r asen isaf yn y cefn, y coesau ôl, y coesau blaen, y sedd a'r asen flaen o dan y sedd, oll o hen dŷ Cefnycoed, a'r breichiau o do eglwys Beddgelert. Daw'r ddwy asen ochrol o dan y sedd o hen drawst yn Tŷ Isa ger Waunfawr, a hen ffermdy ger Llanddeiniolen. Daw'r asennau isaf o wahanol hen dai yng Nghaernarfon. Yn ôl yr hanes, cafodd y darnau a roddwyd yn y panel uchaf gothig er mwyn llenwi tyllau eu tynnu o ddarn o wely'r Tywysog Llywelyn. Daw'r hoelion pren o hen ddarn o dderw yn nho eglwys Llanbeblig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw