Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Glain asgwrn (Hg) a ddarganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn. Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai'r lludw yn cael ei roi mewn yrnau crochenwaith. Weithiau byddai eitemau fel arfau neu addurniadau personol yn cael eu llosgi a/neu eu claddu gyda'r corff. Mae gwahaniaeth rhwng gwrthrychau a oedd yn addurno'r corff ar y goelcerth a gwrthrychau a osodwyd at ddefnydd yr ymadawedig yn y byd arall: offrymau yw'r rhain. Cafodd y glain asgwrn a welir yma ei wisgo adeg yr amlosgi gan ddyn pwysig a oedd yn teilyngu claddedigaeth foethus (claddedigaeth H).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw