Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Enillwyd y Goron hon gan R. Silyn Roberts (1871-1930) yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902. Cyhoeddwyd ei bryddest fuddugol yn ddiweddarach yn y gyfrol 'Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill' (1904). Cynlluniwyd y Goron hon gan Harold Rathbone o Lerpwl.

Ganed Silyn yn Llanllyfni, Sir Gaernarfon. Bu'n gweithio am gyfnod fel chwarelwr cyn mynychu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Roedd yn sosialydd ymroddedig ac ym 1925 sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw