Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cist waddol dderw. Byddai cistiau yn cael eu defnyddio i gadw dillad neu ddillad gwely ac ar achlysur priodas, byddai cist bren yn cynnwys dillad gwely a blancedi yn cael ei chyflwyno i'r briodferch - yr enw a roddid ar y math hon o gist oedd 'cist waddol'. Mae'r llythrennau a'r dyddiad 'L.A.K.A., 1671' wedi eu cerfio ar flaen y gist. Cyflwynwyd y gist hon i Lewis Anwyl a Katherine Anwyl, Parc, Llanfrothen, ar achlysur eu priodas ym 1671.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw