Harold Hughes a Herbert Luck North, 'The Old Cottages of Snowdonia' [clawr, delwedd 1 o 14]
Disgrifiadau
Mae'r tudalennau canlynol yn dangos detholiad o ddarluniau o'r llyfr 'The Old Cottages of Snowdonia' (1908) a ysgrifennwyd gan y penseiri Harold Hughes a Herbert Luck North. Symudodd Harold Hughes (1864-1940) i weithio fel pensaer ym Mangor ym 1891. Ym 1900 cafodd ei benodi'n bensaer a syrfêwr yr esgobaeth. Derbyniodd Herbert Luck North (1871-1941) ei addysg yng ngholeg Uppingham a choleg yr Iesu, Caergrawnt. Cafodd ei brentisio i bensaer yn Llundain a bu'n cynorthwyo Syr Edwin Lutyens cyn sefydlu consortiwm o benseiri yn Llundain. Ar droad y ganrif dychwelodd i ogledd Cymru gan sefydlu cwmni yn Llanfairfechan. Ef yw awdur 'The Old Churches of Arllechwedd' (1900), a chyd-awdur (gyda Harold Hughes) y gyfrol 'The Old Churches of Snowdonia' (1924).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment