arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Yn y llythyr hwn, dyddiedig 7 Mai 1883, mae F.N. yn cyfeirio at y canlyniadau sydd wedi dod i law yn sgil ymchwiliad i achosion yr epidemig ym Mangor. Yn ôl y sawl sy'n cynghori F.N. achoswyd y broblem fwyaf gan y diffyg mesurau glanweithdra i rwystro epidemig o'r fath. Yn fwyaf penodol, er bod y systemau carthffosiaeth a dŵr yn cael eu hystyried yn rhai da, dywedir bod angen cynllun cynhwysfawr i'w gwella. Ym marn F.N. dylid mynd ati i gwblhau cynllun dŵr a dylid penodi peiriannydd, yn hytrach na swyddog iechyd, i arolygu'r gwaith. Mae hi'n gorffen ei llythyr gan anelu ergyd arall i gyfeiriad gweinyddwyr dinas Bangor a'u diffyg gweledigaeth yn y maes hwn.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw