Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn y llythyr hwn, dyddiedig 2 Hydref 1882, mae F.N. yn diolch i William Rathbone am anfon yr holl bapurau ynglŷn â'r epidemig ati. Ar sail ei hastudiaeth o'r gyfradd farwolaethau, mae hi wedi dod i'r canlyniad mai haint yw achos yr epidemig ym Mangor. Yn ei barn hi, mae amryw o 'achosion lleol' i gyfrif am yr epidemig a dywed bod nifer o ragofalon sylfaenol wedi cael eu hesgeuluso. Mae hi'n feirniadol iawn o weinyddiaeth y ddinas; yn ei barn hi, ni ddylid bod wedi dileu'r hen Fwrdd Iechyd a chael gwared ag un awdurdod gweinyddol canolog. Esbonia sut y bydd yn mynd ati i drin haint o'r fath fel arfer drwy symud y bobl o'r fan sydd wedi ei heintio a glanhau'r tŷ yn drwyadl.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw