Disgrifiad

Dyma rifyn o'r cylchgrawn misol Cymraeg 'Y Cerddor' (Mawrth 1896). Cyhoeddwyd y cylchgrawn rhwng 1889 a 1921 'er hyrwyddo dadblygiad cerddoriaeth Gymreig'. Golygwyd y cylchgrawn gan ddau gerddor nodedig, sef David Jenkins a D. Emlyn Evans. Cafodd Jenkins ei benodi'n ddarlithydd cerdd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1893 a'i ddyrchafu'n Athro yn y coleg ym 1910. Cyhoeddwyd 'Y Cerddor' gan gwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw