Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tystiolaethau:
1. Mae John Evans, gŵr tua 32 oed o Aberdaron, yn honni iddo weld John Thomas o Fryncroes yn taro Elizabeth Gorton gyda 'ffustiwr' mewn man o'r enw Ty'r Toppyn. Hefyd, gwelodd Margarett ferch Griffith, mam John Thomas, yn taro Elizabeth Gorton gyda rhestl.

2. Mae Agnes ferch Rob[er]t, gwraig ddibriod tua 30 oed o Fryncroes, yn honni iddi weld J. T. yn ymosod ar Elizabeth Gorton ar 10 Ebrill.

3. Mae Catherin Gorton a John Evans o Aberdaron a Richard Thomas o Fryncroes oll yn honni iddynt glywed Moris Griffith yn dweud wrth J. T. a M. G. i fynd i gartref Richard Thomas [gŵr E.G.]. Yna, gwelsant J. T. yn taro E. G. gyda phastwn, yn agos at gartref ei gŵr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw